Priod y drag'wyddol hanfod

1,2,(3,4).
(Ffyniant y groes)
Priod y drag'wyddol hanfod,
  Welai'n hongian ar y pren,
Dyn a'r Duwdod ynddo'n trigo,
  'N barod grymu lawr ei ben,
Gwelaf etto fwy rhyfeddod,
  Yn ei wyneb angeu loes;
Hedd yn rhedeg tros Galfaria,
  Fel yr afon tan y groes.

Er mai bechan yw ei dechreu,
  Mae'n cynyddu byth i'r làn,
Cododd eisoes cuwch a'r fferau,
  At y gwddf daw yn y màn:
Cod nes ffaelu'n lân
    a'i rhydio,
  Yna lleinw'r ddaear gron;
Llawn o bysgod mawr a bychain,
  'Fengyl heddwch ydyw hon.

Iesu ti wyt ffynnon bywyd,
  Bywyd dedwydd i barhau,
Pob cysuron îs y nefoedd,
  Ynot ti dy hun y mae;
Nis gall croes,
    na gwae, na chystudd,
  Wneuthur niwed iddynt hwy,
Gafodd nerth i wneyd eu noddfa,
  Yn dy ddwyfol farwol glwy'.

Yn dy haeddiant 'rwyf yn gyfiawn,
  Yn d'oleuni gwelai'n glir;
Yn dy wisgoedd dwyfol dysglaer,
  Byddai'n ogoneddus bur;
Yn dy iachawdwriaeth gyflawn,
  Er mòr waned wyf yn awr,
Ceir fy ngweled ryw ddiwrnod,
  Yn dysgleirio fel y wawr.
William Williams 1717-91

[Mesur: 8787D]

gwelir:
  Dyma Frenin dyma brophwyd
  Iesu Cyfaill pechaduriaid (Wela'i'n hongian ar y pren)
  Iesu llawnder mawr y nefoedd
  Iesu Ti wyt ffynnon bywyd
  Iesu yn unig yw fy mywyd
  O fy enaid co'd dy olwg

(The success of the cross)
The possessor of the eternal being,
  One would see hanging on the tree,
Man and the Godhead in him dwelling,
  Readily bowing down his head,
I see still a greater wonder,
  In his face the throes of death;
Peace running across Calvary,
  Like the river under the cross.

Although small is its beginning,
  It is increasing forever to the shore,
It rose already as high as the ankles,
  To the neck it will come soon:
It will rise until failing completely
    to be forded,
  Then it will flood the round earth;
Full of fish great and small,
  The gospel of peace is this.

Jesus thou art the fountain of life,
  A happy life to continue,
Every comfort under heaven,
  In thee thyself it is;
Neither the cross, nor woe,
    nor affliction can,
  Make a change to them,
Who got strength to make their refuge,
  In thy divine, mortal wound.

In thy merit I am righteous,
  In thy light I see clearly;
In shining, divine garments,
  Would be pure glory;
In thy full salvation,
  Although so weak I am now,
I will get to be seen some day,
  Shining like the dawn.
tr. 2015,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~